Rhaid i mi ddweud fy mod i'n hoffi dysgu Cymraeg ac mae'n bosib cael lot o hwyl hefyd. Ond mae'r dysgu Cymraeg yn gallu bod yn beryglus hefyd. I ddechrau dyma stori ynglyn â'r iaith Ffrangeg.
Pan o'n i yn yr ysgol dysgais i Ffrangeg. Do'n i fyth yn rhugl ond o'n i'n gallu siarad yn eithaf da. Tair blynedd yn ôl ro'n i mewn cynhadledd yn yr Eidal a ro'n i'n eistedd gyda grwp o Ffrancwyr. Ro'n i'n gallu deall rhai pethau ond pan o'n i'n trio meddwl o rywbeth i ddweud yn y Ffrangeg o'n i'n jyst meddwl o eiriau Cymraeg! Doedd dim Ffrangeg yna o gwbl! Roedd y Ffrancwyr yn neis iawn, rhaid i mi ddweud, ro'n nhw'n siarad â fi yn Saesneg berffaith, ond ro'n i'n teimlo mor ddiog ac yn dwp. Wedyn, gofynnodd un ohonyn nhw i mi - "Do you want red or white wine?". Wel meddyliais i wrth fy hunan, dw i'n cofio y geiriau "vin rouge", dw i'n gallu ateb yn y Ffrangeg. Ond beth ddwedais i? "Vin goch si'l vous plait" Vin goch? - Peintiwr yw e, nid diod!
Hefyd, mae'n gallu bod yn beryglus pan mae bobl yn sylwi eich bod chi'n gallu siarad yr iaith. Y llynedd, roedd datblygiad pwysig yng ngwaith yr Adran Fioleg ac wrth gwrs roedd y Brifysgol eisiau cyhoeddi y peth. Ro'n nhw wedi ffeindio prodin sy'n gallu helpu bacteria tyfu, a ro'n nhw'n gobeithio y bydd y prodin yn mynd i fod yn ddefnyddiol mewn triniaethau newydd am rai glefydon. Roedd y stori ar dudalen blaen y Cambrian News. Roedd llun o fy mos yn y Western Mail. Daeth criw ffilmio o'r BBC a HTV i gael y stori am eu bwletinau newyddion. Yn sydyn, roedd gyda fy mos diddordeb mawr yn y ffaith fy mod i'n gallu siarad tipyn bach o Gymraeg. Gofynnodd e i mi i gymryd rhan mewn cyfweliad ar Newyddion S4C. Do'n i ddim yn awyddus iawn rhaid i mi ddweud. Dw i'n tueddu cuddio pan mae bobl yn trio tynnu fy llun, neu pan mae fy nhad yn gyfraith o gwmpas gyda'i gamera fideo. Hefyd, ro'n i'n disgwyl babi yn llai na dau fis fel do'n i ddim yn teimlo yn ffotogenic ar y pryd. Ond do'n i ddim yn gallu cwyno gormod oherwydd y Brifysgol wedi talu rhai o fy ffioedd i fy helpu i dysgu Cymraeg. Roedd yr uned cyfieithu yn y coleg yn help mawr i mi. Gwnaethon nhw restr o eiriau defnyddiol i mi. Ar ôl i mi wedi darllen y rhestr, doedd dim ond un broblem 'da fi. Roedd dau air ar y rhestr i gyfieithu y gair tuberculosis i'r Gymraeg. Diciáu, ac y Darfodedigaeth. Doedd dim syniad 'da fi pa un i'w defnyddio fel gofynnais i'r newyddiadurwyr "Pa air dylwn i'w defnyddio?" Awgrymon nhw i mi i ddefnyddio "tiwberciwlosis" neu "TB". Nid Cymraeg dda efallai ond o'n i'n gallu ymdopi yn lot well.
Beth bynnag, dw i wedi goroesi'r profiad a nawr dw i'n siarad Cymraeg yn aml gyda'm merch Llinos. Mae casét o ganeuon Cymraeg gyda ni ac yn ni'n gwrando ar Dau gi bach, Jim Cro Crystyn ac yn y blaen tua bob bore ar y ffordd i'r feithrinfa. Mae tâp Saesneg gyda ni hefyd ond dw i ddim yn gwrando arno fe yn aml ond ar siwrnai hir yn ddiweddar ro'n ni'n gwrando ar y tâp Saesneg ac roedd rhyw gân sy'n mynd "Mummy's taking us in the car car" a ro'n i'n gyrru ar hyd y ffordd ac yn meddwl wrth fy hunan "pam ydy y fam fan 'na yn mynd â'i phlant i'r carchar" sef y prison!! Ro'n i'n teimlo mor dwp pan sylwais i beth oedd y plant yn canu mewn gwirionedd.
Daeth fy rhieni i weld Llinos yn ddiweddar. Dyn nhw ddim yn siarad Cymraeg o gwbl ond gofynnodd fy mam i mi sut i ddweud Grandma yn y Gymraeg. Awgrymais i "Nain" a "Mam-gu". Doedd hi ddim yn hoffi y gair "Nain" ond penderfynodd hi ddefnyddio'r gair Mam-gu. Gofynnodd hi i mi eto sut i ddweud y gair ac roedd hi'n gallu ynganu "Mam-gu" yn berffaith erbyn diwedd y noson. Ond wedyn gofynnodd hi i mi i ysgrifennu y gair ar ddarn o bapur iddi hi. Edrychodd hi ar y gair a dwedodd hi "Mamgoo". Ers hynny, mae hi wedi dweud Mamgoo bob tro.
Ond i roi tipyn bach o obaith i'r dysgwyr, dyw hi ddim jyst y dysgwyr sy'n gwneud y camgymeriadau. Yn yr adran Fioleg mae'n bosib i wneud gradd mewn "plant physiology". Yn anffodus un flwyddyn, gwnaeth ysgrifenyddes tipyn bach o wall. Roedd hi'n teipio canlyniadau'r arholiadau ac roedd rhaid iddi hi deipio teitl y gradd ar dop y rhestr. Yn anffodus yn lle o'r gair ffisioleg teipiodd hi'r gair seicoleg. Yn ffodus sylwodd rhywun cyn y seremoni graddio felly doedd y Brifysgol ddim y cyntaf yn y byd i wobrwyo myfyrwyr gyda gradd mewn plant psychology...
Hefyd, es i i Nant Gwrtheyrn dros yr haf ac roedd yr athro fan 'na yn wych. Roedd rhywun yn y dosbarth yn poeni gormod am wneud camgymeriadau, ac wrth gwrs fel mae pob dysgwr yn gwybod - pe tasech chi'n poeni gormod, fyddech chi ddim yn dweud dim byd. Dwedodd yr athro rhywbeth defnyddiol iawn - pe tasai'r dysgwr yn gwneud camgymeriad - camgymeriad yw e, pe tasai'r Cymro Cymraeg yn gwneud camgymeriad - tafodiaith yw e. Dyw hynny ddim yn hollol gywir wrth gwrs ond mae'n rhywbeth i roi tipyn bach o hyder i ddysgwyr, dw i'n credu.
Ond mae rhaid i ni gofio bod y dysgwyr yma yng Nghymru yn lwcus iawn. Dyn ni'n gallu gwrando ar yr iaith bob dydd ac os oes digon o hyder gyda ni, mae'n bosib hyd yn oed i ddefnyddio'r iaith bob dydd. Rhaid i ni gofio bod 'na lot o bobl led led y byd sy'n dysgu Cymraeg heb yr un adnoddau. Mae dyn o'r enw Mark Nodine sy'n aelod o'r rhestr E-bost Cymraeg. Penderfynodd e ddysgu Cymraeg ar ôl dod i Gymru ar ei wyliau. Yn anffodus, penderfynodd e ddysgu Cymraeg wrth ddarllen y Beibl. Daeth e yn ôl i Gymru i ddefnyddio'i Gymraeg a, fel dych chi'n gallu dychmygu, cafodd e dipyn bach o sioc! Roedd rhaid iddo fe ail ddysgu er mwyn siarad heb swnio'n od! Erbyn hyn mae e'n rhugl yn y Gymraeg ac eithaf enwog ar y we. Mae e wedi creu geiriadur Cymraeg-Saesneg ar-lein, ac adnoddau eraill i ddysgwyr, felly mae gobaith i bawb sy'n fodlon i drio ac ail-drio.
Mae'r siaradwyr rhugl yn CYD wedi bod yn help mawr i mi a dw i'n sicr, i'r dysgwyr eraill yma. Mae'r dosbarthiadau i oedolion yn wych ac mae'r athrawon yn fantastig hefyd ond y pwynt o ddysgu'r iaith ydy i'w defnyddio hi tu allan i'r dosbarth. Mae'r sessiwn CYD yn gallu bod yn halfway house defnyddiol iawn rhwng y ddau, ond y prawf real ydy y byd mawr y tu allan i Blas Lowri. Mae rhai Cymry Cymraeg yn cael syniad od iawn o ddosbathiadau a dysgwyr. Er enghraifft, mae dynes sy'n byw yn yr un ardal a fi sy'n siarad Cymraeg fel ei hiaith gyntaf. Mae hi wedi bod yn siarad Cymraeg dros saith deg o flynyddooed ond dwedodd hi wrthi mi, "O mae rhaid i mi ymarfer fy Nghymraeg cyn i mi siarad i ti" ac wedyn dechreuodd hi i ddweud rhywbeth a oedd yn dechrau gyda "yr ydwyf i.....", atebais i gyda brawddeg a oedd yn dechrau gyda "Dw i....." a dwedodd hi yn y Saesneg "They don't teach you like THAT do they?"
Mi ddechreuais i ddysgu'r Gymraeg trwy ddarllen llyfr ag enw Teach Yourself Living Welsh gan T.J. Rhys Jones pan es i i Gymru am y tro cynta. Pan oedd i yno, mi brynais i ychydig o lyfrau syml ar gyfer plant. Yn o+l yn yr UDA, mi ddarllenais i'r llyfrau o glawr i glawr o leia tair gwaith. Ar o+l hynny, mi gynlluniais i daith newydd i Gymru i ymweld a+'r Eisteddfod Genedlaethol yn Abergwaun (1986?) gan feddwl mod i'n siarad Gymraeg yn eitha dda. Felly, mi ges i dipyn o sioc pan gyrhaeddais i faes yr Eisteddfod ac roedd rhaid imi chwilio yn y geiriadur am bron bob gair y sgrifennwyd ar yr arwyddion o gwmpas y maes. Roedd yn brofiad oedd yn darostwng.Wel, ar o+l hynny, mi brynais i lyfrau mwy anodd, gan gynnwys y Beibl Cymraeg Newydd. Roeddwn i'n arfer darllen y Beibl bob dydd a mi benderfynais i ddarllen trwy'r Beibl yn Gymraeg. Pan oeddwn i tua hanner y ffordd drwyddo, mi es i i'r Cwrs Cymraeg, y cwrs blynyddol dan nawdd Cymdeithas Madog. Erbyn hynny, roeddwn i'n siarad yn eitha rhugl, ac roedd fy nghynaniad yn ddigon eglur i bobl fy neall. Ond roedden nhw'n dweud mod i'n siarad fel person a ddaeth o'r canrif diwetha, gan mod i'n defnyddio "'m" a "'th" a geiriau fel "beunyddiol" o ddylanwad darllen y Beibl mor awyddus.
Rhai blynydde nol fe es i ar daith I lydaw efo band Cymraeg.F e halesd i bythewnos yn siarad Ffrangeg (CSE) a Bethesda, well OK Cymreaeg ond so'r Gogs ma yn siarad iaeth iawn.
Ar ol y cyngerdd ma daeth y boi 'ma lan if fi a dechrau siarad Saesneg. Rod yn rhaid I fi gofun iddo fe siarad Ffrangeg, ar ol ond pythewnos wedd yr hen iaith hyll na yn rhy galed.
Dyddie hyn ond Cwm Gwaun wi'n siarad.
Ta beth, ar ol sawl mis o ddysgu'r iaith ond heb i fi gael cyfle i'w defnyydio, dyma fi'n ymweld a ffrind yng Nghaerfyrddin. Siop sglods yn Heol Dwr (rwy'n credu) ac arwydd tu fas yn gweud 'Pysgod a Thatws'. Wrth feddwl taw rhywfath o dafodiaeth oedd defnyddio 'tatws' yn hytrach na 'thsips', neu 'sglodion', etho i mewn a gofyn am 'fag o datws'. Chwarddodd pawb wrth gwrs, a gadawais i'n cochi heb sglods.Aeth blwyddyn arall heibio cyn i fi gael y hyder i dreial eto. Caernarfon y tro hwn. Heb fod yn y gogledd o gwbwl cyn hyn, pan ddaeth hen ddyn lan ata i yn gweud rhywbeth annealladwy i fi atebais gyda'r brawddegau enwog i ddysgwyr - 'Mae'n ddrwg gen i. Rydw i'n dysgu Cymraeg. Siaradwch yn arafach, os gwelwch yn dda' - yr ateb y cefais (yn ddigon araf ac yn glir - whara teg) oedd 'I - was - speaking - English - to you. Have - you - got -a light?'
Mae'ch cais am ddeunydd ar gyfer y cinio Nadolig CYD (beth bynnag yw hynny) yn f'atgoffa o'r hyn a ddigwyddodd yn orsaf Aberystwyth adeg yr Hen Gambrian (yr hen lein rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin)...Hen w^r: Tocyn unffordd i Bencader os gwelwch yn dda.
Gwerthwr Tocynnau: Say it in English, I don't understand Welsh.
Hen w^r: A single ticket to Top of the Chair if you please.
Gwerthwr Tocynnau: WHERE?
Hen w^r: You don't understand english either!
this happened to somebody s sister and brother-in-law (not mine of course for libel reasons). my, i mean the, brother-in-law was on the 'phone to somebody and he was spelling out their address to a non-welsh speaker on the other side. my sister was listening:b-in-l: "the address is Ty Coch"
pause from other end
b-in-l: "t, thomas, y umbrella.."
pause from other end
b-in-l: "no,no, y umbrella"
Every time now I see a word with 'dd' in it, except for established common words like 'ladder', I give it the Welsh dd sound. The National party candidate for Rimutaka (my electorate) is Stuart Roddick - it was ages before I realised I was calling him Stuart Rothick.
When my brother was learning Welsh he met the local minister who asked him in Welsh what he had been doing that particular afternoon. He tried to reply that he had been sweeping up a pile of leaves - unfortunately he used *tomen o dail* with a surprising reaction from the minister.
O'n i am brynu dau ddarn o bizza i ginio yn ein siop Eidalaidd leol, ac ar y ffordd i'r siop, o'n i'n trio ymarfer y geiriau cywir yn yr Eidaleg - ond yr unig beth ddaeth i'm meddwl oedd "Ga i ddue pezze di pizza, os gwelwch yn dda?" Rhaid imi gyfaddef imi fynd i'r siop yn y pen draw a dweud "Can I have...?" Mae'n gas gen i feddwl beth fyddai ymateb perchennog y siop wedi bod i air Eidaleg wedi'i dreiglo!
Unwaith mewn tafarn, gofynnes i Coke - 'ond dim rhyw, pli+s'!
An Englishman in the next house to me wanted to say something nice to a Welsh girl in my house. He chose 'you're pretty' and so I gave him 'wyt ti'n ddel iawn'. He marched up to her and proudly said 'wyt ti'n dew iawn'.
Roeddwn i'n cael cinio gyda Emyr Davies un heno yng Nghaerfyrddin ac roedd Emyr yn dweud wrthof yr oedd ei gor yn fynd i gael eu ffilmio dros y penwythnos nesa ar gyfer rhyw sioe S4C."Ble bydd y cor yn cael ei saethu?" gofynnais yn ddigon diniwed.
Neidiodd Emyr allan o'i gadair gan godi ei ddwylo a chrio, "Paid! Paid! Paid a+'n saethu ni, plis!"Mae'n iawn i "shoot" pobl a+ chamera yn Saesneg, ond basai eu saethu nhw yn Gymraeg yn eu lladd nhw!
Unwaith mewn dosbarth cwpl o flynyddoedd yn o^l, roeddwn ni'n chwarae ge^m. Amcan y ge^m roedd dysgu enwau annifeiliad a sut i roi cyfeiriadau i bobol. Felly, roedd map o sw^ o'n blaen ni oedd yn dangos pa annifail roedd ym mha caets, ac roedd rhaid i ni ddisgrifio i'r chwaraewyr eraill sut i ddod a hyd yr annifeiliad amrywiol. Doeddwn i ddim yn cael lot o drafferth yn dweud wrth bobl lle roedd yr annifeiliad, ond roedd un annifail oeddwn i'n methu meddwl beth yn y byd roedd e. Ar o^l edrych ar y gair yn caets am funud neu ddau, goffynais i i'r athro o'r blaen y dosbarth i gyd."Esgusodwch fi, ond pa fath o annifail yw GWAG?"
Mae'r chwaraewr rygbi, Gareth Edwards, yn ei hunangofiant, yn adrodd yr hanes am ei ffrind, sy' wedi dod at y ty+ Edwards a dweud "Hylo, Mrs Edwards, sut mae dy dyn?" (yn lle "dy ddyn") sy'n swnio'n debyg i "... dy din" "Hello, Mrs E, how's your bottom?"
Author: Hazel Davey hlr@aber.ac.uk
This page is HTML4 compliant.
Check
the page